Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2017, Ystafell Friffio’r Cyfryngau, y Senedd, Bae Caerdydd.

 

Yn bresennol: Zoe Richards, Joe Powell, Kelly Stuart, Cat Jones, Alicja Zalesinska, Karen Warner, Heather Patterson, Rebecca Williams, Haqeeq Bostan, Rebecca Papanicolas, Jim Crowe, Rhian Davies, Patrick McNamara, Owen Williams, Rebecca Phillips, Katie McMahon, Mark Isherwood, Wendy Ashton, Mandi Glover, Trevor Palmer, Natasha Hirst, Jan Thomas, Rhian Nowell-Phillips.

 

Ymddiheuriadau: Peter Jones (Cŵn Tywys Cymru), Eleanor Williams (Comisiwn Hawliau Dynol), Simon Thomas AC, Sian Gwenllian AC, Michelle Brown AC, Lynne Neagle AC, Janet Finch-Saunders AC, Sara Mosely (Mind Cymru)

 

1. Croeso a chyflwyniadau.

Croesawodd Mark Isherwood AC, y Cadeirydd dros dro, bawb i gyfarfod cyntaf y pumed Cynulliad.

 

2. Ethol swyddogion.

Cyfrifoldeb cyntaf y grŵp oedd penodi Ysgrifennydd a Chadeirydd am y flwyddyn i ddod.

 

Cafwyd un enwebiad ar gyfer swydd yr Ysgrifennydd gan Zoe Richards o Anabledd Dysgu Cymru.

Derbyniwyd yr enwebiad.

Cynigiwyd gan: Owen Williams

Eiliwyd gan: Rhian Nowell-Phillips

 

Enwebwyd Mark Isherwood AC fel Cadeirydd.

Derbyniwyd yr enwebiad.

Cynigiwyd gan: Owen Williams

Eiliwyd gan: Rhian Davies

 

Er nad oedd yn bresennol, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd fod Sian Gwenllian AC o Blaid Cymru, Michelle Brown AC o UKIP a Lynne Neagle AC Llafur hefyd yn swyddogion yn y grŵp.

 

Cydnabuwyd y bydd Cyngor Cymru i’r Deillion yn parhau i gadw cofnodion yn y cyfarfodydd.

 

3. Cyflwyniad gan CAPITA ar Daliadau Annibyniaeth Personol. ( Haqeeq Bostan, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Taliadau Annibyniaeth Personol a

Rebecca Papanicolas, Rheolwr Rhanddeiliaid a Chyfathrebu).

 

Dechreuodd Haqeeq drwy egluro rolau’r Adran Gwaith a Phensiynau a Capita o ran proses y Taliadau Annibyniaeth Personol. Mae’r rolau hyn wedi’u rhannu’n glir. Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n pennu’r polisi, sy’n rheoli’r broses o wneud ceisiadau, sy’n gwneud penderfyniadau ar ddyfarniadau, sy’n penderfynu ar y gydnabyddiaeth ariannol ac sy’n derbyn ac yn rheoli’r holl wybodaeth am gleientiaid.

Cyfrifoldeb Capita yw rheoli a phrosesu asesiadau a’u cyflwyno i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

 

Mae Capita yn gweithio yn unol â Chanllaw Polisi yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch Taliadau Annibyniaeth Personol i gynnal asesiadau holistig. Mae’r ddogfen hon ar gael i’r cyhoedd ac mae unrhyw newidiadau i’r canllawiau hyn yn destun ymgynghoriad.

 

Mae cylch gwaith Capita yn cwmpasu Cymru gyfan a dwyrain a gorllewin canolbarth Lloegr.

Yn ei farn ef, mae Capita yn gweithio mewn ffordd agored a thryloyw ac yn credu ym mhwysigrwydd rhoi’r hawlydd wrth wraidd y broses.

 

Wedyn, siaradodd Rebecca am ei rôl hi. Mae hi’n trefnu fforymau rhanddeiliaid, gan nodi bod croeso i bawb a oedd yn bresennol fynd i gyfarfod y fforwm a gynhelir yng Nghymru. Mae Rebecca hefyd yn ymdrin â materion neu bryderon a godir gan randdeiliaid ynghylch eu hachosion unigol.

 

Aeth Rebecca ymlaen i egluro’r broses asesu mewn rhagor o fanylder. Pwysleisiodd y gall yr hawlydd neu’r eiriolwr gysylltu â hi i drafod unrhyw ymholiadau sydd ganddynt ar unrhyw adeg yn ystod y broses. Gallant hefyd wneud cwyn, ac, oherwydd bod y broses gwyno yn digwydd ar wahân i brosesau’r Adran Gwaith a Phensiynau, ni fydd yn effeithio ar y Penderfyniad ar eu hachosion.

 

O ran tystiolaeth ychwanegol, cadarnhaodd Rebecca nad oes angen i’r dystiolaeth hon gael ei chyflwyno gan weithiwr proffesiynol ym maes iechyd. Dylai’r dystiolaeth ddod oddi wrth y person sy’n adnabod yr hawlydd orau. Maent hefyd yn darparu ar gyfer hawlwyr a fyddai’n ei chael hi’n rhy anodd mynd i ganolfan drwy gynnig asesiadau yn y cartref.

 

Mae’r Aseswyr Anabledd yn weithwyr iechyd proffesiynol fel nyrsys, parafeddygon, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol cofrestredig. Cânt eu hyfforddi gan Capita a’u cymeradwyo gan Brif Swyddog Meddygol yr Adran Gwaith a Phensiynau i gynnal asesiadau swyddogaethol.

 

Nododd Rebecca fod 540,000 o asesiadau wedi eu cynnal hyd yn hyn, gyda dros 61 y cant wedi’u cynnal yng nghartref yr hawliwr. Maent yn disgwyl cynnal 760,000 o asesiadau pellach. Mae 15 y cant yn asesiadau ar bapur a’r gweddill yn asesiadau wyneb-yn-wyneb. Caiff 96 y cant o asesiadau eu cwblhau o dan ‘amodau arferol’ gyda 4 y cant yn cael eu cynnal ar gyfer y rhai sydd â salwch angheuol. Mae ganddynt darged o 2 ddiwrnod i gwblhau hawliadau o dan y broses ‘rheolau arbennig ar gyfer salwch angheuol’, y mae 93 y cant ohonynt yn cael eu cwblhau o fewn y cyfnod hwn. Caiff 90 y cant o hawliadau o dan amodau arferol eu cwblhau o fewn 40 diwrnod ar ôl cyfeirio achos penodol.

 

Rhoddodd Capita wybod i’r grŵp eu bod wedi cael cwynion gan 1 y cant o hawlwyr.

 

Gorffennodd Rebecca ei chyflwyniad drwy ddyfynnu profiadau hawlwyr a oedd yn fodlon â’r gwasanaeth.

 

Sbardunodd y cyflwyniad sesiwn drafod fywiog a oedd yn cynnwys rhannu profiadau personol. Soniwyd am ddiffyg hygyrchedd y cyflwyniad, sy’n cynnwys sleidiau PowerPoint, ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg. Cytunodd Rebecca i anfon copi o’r ddogfen at aelodau’r grŵp ar ôl y cyfarfod:

 

Cam i’w gymryd: Rebecca Papanicolas i anfon copi o’r cyflwyniad.

 

Roedd sylwadau eraill yn cynnwys:

 

-       achosion o gleientiaid ag anableddau yn sgorio sero ar eu ceisiadau am Daliad Annibyniaeth Personol, gan achosi straen gormodol.

-       cleientiaid yn teimlo eu bod wedi’u twyllo i ateb mewn ffordd arbennig.

-       pobl yn rhy ofnus i gwyno rhag ofn eu bod yn colli eu budd-daliadau.

-       achosion o aseswyr yn peidio â chofnodi atebion cleientiaid i gwestiynau yn gywir.

-       aseswyr yn peidio â chadw at amserlen, gan newid amserau        a dyddiadau asesiadau.

-       achosion o beidio â darparu ar gyfer anghenion pobl fyddar a dall yn ystod eu hasesiadau.

 

Cafwyd cyfaddefiad gan Capita eu bod weithiau’n gwneud camgymeriadau, yn ogystal â chynnig i ymchwilio i’r achosion unigol a godwyd yn y cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr Capita beth yw ystyr ‘Cyfannol’ yn y cyd-destun hwn, gan nodi bod rhai etholwyr sy’n cysylltu ag ef ar y sbectrwm awtistig, felly nid oes ganddynt lawer o dystiolaeth feddygol i gefnogi eu hawliadau. Dywedodd fod angen proses asesu gyfannol arnynt i ddiffinio anghenion gydol oes. 

 

Hefyd, holwyd am ansawdd yr hyfforddiant a roddir i’r Aseswyr yn sgil nifer y materion sy’n codi oherwydd nid yw aseswyr yn deall gwahanol anableddau. Ar ôl peth trafodaeth, gwnaed argymhellion i Capita y dylid cynnal cyfarfodydd mwy ystyrlon o’r grŵp rhanddeiliaid yng Nghymru ac y dylai sefydliadau anabledd gymryd rhan yn y broses o hyfforddi aseswyr.

 

Cam i’w gymryd: Y grŵp i ysgrifennu at Weinidog y DU i godi’r materion a drafodwyd yn eitem 3.

 

4. Gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru a Lloegr, Adroddiad Cysgodol.

(Rhian Davies, Anabledd Cymru)

 

Lansiodd Rhian Davies yr adroddiad o Gymru, sy’n ffurfio rhan o Adroddiad Amgen y Deyrnas Unedig i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y camau i’w cymryd i wella’r ffordd yr ymdrinir â hawliau pobl anabl yng Nghymru.

 

Mae’r adroddiad wedi’i strwythuro o amgylch yr Erthyglau yn y Confensiwn.

 

Mae’r erthyglau allweddol yn yr adroddiad yn cynnwys:

 

Erthygl 4: Y Llywodraeth yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod hawliau dynol a rhyddid sylfaenol pobl anabl yn cael eu gwarchod.

 

Erthygl 9: Bod gan bobl anabl fynediad cyfartal at gyfleoedd i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

 

Erthygl 13: Mynediad at gyfiawnder er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y cyngor cywir a mynediad at wasanaethau cymorth.

 

Erthygl 16: Cryfhau strategaethau i roi terfyn ar drais, camfanteisio, cam-drin a throseddau casineb.

 

Erthygl 19: Yr hawl i fyw’n annibynnol. Cyfle i gryfhau’r Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol.

 

Erthygl 24: Mynediad cyfartal at addysg. Cyfle i edrych ar Fil Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r hyn y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn ei ddweud.

 

Erthygl 27: Mynediad cyfartal at gyflogaeth.

 

Cafodd copi o’r adroddiad ei ddosbarthu i’r rhai a oedd yn bresennol ac mae’r adroddiad hefyd ar gael ar wefan Anabledd Cymru.

 

Cam i’w gymryd: Y grŵp i amlinellu argymhellion i Lywodraeth Cymru o ran camau gweithredu i fynd i’r afael â’r ffordd yr ymdrinir â hawliau i bobl anabl yng Nghymru.

 

 

5. Unrhyw fater arall

Cafwyd sylwadau pellach ar Daliadau Annibyniaeth Personol.

 

Nododd Fiona McDonald ei bod hi’n amlwg mewn cyfarfod diweddar o’r fforwm Taliadau Annibyniaeth Personol nad yw pobl yn cwyno am y broses a’r penderfyniadau o ran Taliadau Annibyniaeth Personol oherwydd eu bod yn rhy ofnus.

 

Mynegodd Lynda Dixon o’r Gwasanaethau Cymdeithasol bryder wrth adrodd bod rhai ceisiadau am Daliadau Annibyniaeth Personol yn mynd ar goll yn y post ac nid ydynt yn cyrraedd yr Adran Gwaith a Phensiynau. Soniodd am achlysuron pan fo ffurflenni sydd wedi’u llenwi wedi teithio ledled y wlad cyn glanio ar ei desg.

 

6. Dyddiadau a Themâu yn y dyfodol

Cynhelir y cyfarfod nesaf yng ngogledd Cymru. Mae’r dyddiad a’r thema i’w cadarnhau. Mae croeso i aelodau’r grŵp awgrymu themâu yr hoffent eu trafod.

 

7. Cloi

Diolchodd MI i’r rhai a oedd yn bresennol, gan nodi un cam gweithredu i’r grŵp cyfan, sef cysylltu â’r swyddogion perthnasol ac Aelodau’r Cynulliad sydd newydd eu hethol i hyrwyddo hawliau pobl anabl.

 

Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd cyflwyno cwynion i Capita a chroesawodd unrhyw gyfleoedd i hawlwyr wneud hynny drwy’r grŵp trawsbleidiol. Hefyd, awgrymodd y dylai aelodau’r grŵp roi gwybod i’w Haelodau Cynulliad am y broses gwyno a gwaith y grŵp.

 

Diolchodd y grŵp i MI am ei gefnogaeth selog i waith y grŵp trawsbleidiol.